Rydym
yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gwasanaethau tân
drwy’r wlad yn cael eu gwarchod rhag toriadau llym yn y
gyllideb, a fyddai, yn anochel, yn effeithio ar y gwasanaeth ac ar
amseroedd ymateb.
Gwybodaeth ychwanegol:
Oherwydd toriadau llym yn y
gyllideb gan Lywodraeth Cymru i lywodraeth leol, mae awdurdodau
tân yn wynebu pwysau ariannol sylweddol ac maent yn cael eu
gorfodi i leihau eu cyllidebau. Credwn y bydd hyn yn
effeithio’n uniongyrchol ar amseroedd ymateb a gallai roi
bywydau pobl mewn perygl. Gan mai Llywodraeth Cymru sydd
â’r cyfrifoldeb eithaf dros y gwasanaeth tân,
credwn y dylai Llywodraeth Cymru ymyrryd yn ariannol yn yr un
ffordd ag y gwnaeth gyda’r GIG, i warchod y gwasanaeth
tân rhag toriadau yn y gyllideb.
Prif ddeisebydd: Jonathan Edwards
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 18 Chwefror 2014
Nifer y llofnodion: 698